Mae chwech o bob deg person sy’n beicio’n rheolaidd yn teimlo nad yw eu teithiau’n ddiogel, yn ôl arolwg newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi’n asesu’r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ers i Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 er mwyn ddod i rym. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fapio a gwella llwybrau teithio llesol er mwyn annog pobl i gerdded neu feicio mwy.

Fel rhan o’r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg byr i’w helpu i ddeall sut a pham y mae rhai pobl yng Nghymru yn cerdded ac yn seiclo, a pham mae eraill yn peidio â gwneud.

Dywedodd 60 y cant o bobl sy’n beicio’n rheolaidd, a 75 y cant o’r rheini sy’n beicio’n achlysurol, nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel wrth seiclo.

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch diffyg cysylltiadau rhwng llwybrau beicio penodol a gwaith cynnal a chadw gwael ar lwybrau.

‘Ystyried sylwadau’

Cymerodd dros 2,500 o bobl ran yn yr arolwg, gan gynnwys mwy na 500 o blant ysgol.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg a byddwn yn ystyried eu sylwadau fel rhan o’n tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn,” meddai Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Roeddwn yn synnu bod chwech o bob deg o bobl sy’n seiclo’n rheolaidd yn dweud nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel wrth deithio. Byddwn yn codi’r pwyntiau a godwyd gyda thystion, gan gynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru, dros yr wythnosau nesaf.”

Dros y mis nesaf, bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth lafar gan amrywiaeth o arbenigwyr, i ategu canlyniadau’r arolwg a sylwadau’r cyhoedd.