Mae Miss Cymru 2015 yn mynnu ei bod yn bosib bod yn ffeminist a chystadlu mewn pasiant sy’n lwyfan i ferched golygus.

Bydd Emma Jenkins i’w gweld yn amddiffyn sioeau Miss Cymru a Miss World ar Bras, Botox a’r Bleidlais – rhaglen ddogfen gan S4C nos Sul sy’n trafod safle’r ferch mewn cymdeithas, a hynny gan mlynedd ers i rai merched gael y bleidlais.

“Mae bod yn ffeminist yn golygu peidio â barnu unrhyw ferch am beth mae hi eisiau gwneud,” meddai Emma Jenkins fu’n Miss Cymru 2015.

“Sdim hawl gyda neb i ddweud wrth unrhyw ferch neu ddyn beth ddylen nhw fod. Dyna beth  ma’ bod yn ffeminist yn golygu I fi. Mae fe lot mwy na jyst pageant y mae pobl yn meddwl yw e’.

“Y flwyddyn wnes i gystadlu fe godon ni £13,000 ar gyfer elusennau plant, mae hyn yn rhywbeth mawr sy’n gwneud lot o waith da mewn cymunedau dros Gymru i gyd. Roedd e’n dda bod yn rhan o rywbeth lot mwy na fi.”

Ffion Gwallt yn cyflwyno

Yr actor Ffion Dafis sy’n cyflwyno’r rhaglen Bras, Botox a’r Bleidlais, ac mae hi’n cydnabod bod pasiantau i ferched del yn medru bod yn destun sbort a gwawd.

“Mae pobl dyddie yma’n gallu bod yn ddilornus o bethe fel Miss Cymru a Miss World. Dw i’n sicr wedi bod yn euog o hynny – o feddwl na elli di fod yn ffeminist, yn hogan gry’, os wyt ti hefyd yn cystadlu mewn Pasiantau Harddwch.

“Ond dydy ddim bob tro mor ddu a gwyn nac ydy… Maen nhw wedi bod yn rhan fawr o fywydau merched yng Nghymru ers degawdau.”

Bras, Botox a’r Bleidlais ar S4C nos Sul.