Cân – a rap – yn clodfori Bardd y Gadair Ddu sydd wedi ennill gwobr Cân i Gymru 2018.

Aeth wyth cân benben am y wobr o £5,000 neithiwr, ac yn y diwedd Erfyl Owen a’i gân ‘Cofio Hedd Wyn’ aeth â hi.

Mi fydd cân y cyfansoddwr o bentref Rhewl, ger Rhuthun, yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Pan Geltaidd yn Iwerddon.

Cafodd y gystadleuaeth ei darlledu’n fyw ar S4C o ganolfan Pontio ym Mangor, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis Morris yn cyflwyno.

Ail a thrydydd

Yn ail ar y noson, ac yn ennill gwobr o £2,000, roedd y gân ‘Byw a Bod’ gan Mared Williams  sy’n canu yn y band Trwbz. A’r gân a ddaeth yn drydydd, gan ennill wobr o £1,000, oedd ‘Tincian’ gan Bethan Williams Jones a Sam Humphreys sy’n aelodau o’r band gwerin ffynci Calan.

Cafodd 114 o ganeuon eu hanfon i’r gystadleuaeth, a’r cerddorion Al Lewis, Heledd Watkins a Dewi ‘Pws’ Morris oedd aelodau’r panel wnaeth ddewis yr wyth yn y ffeinal.

Cwyno am Saesneg

Ymysg y perfformwyr roedd Gary ‘Ragsy’ Ryland, sy’n adnabyddus am ymddangos ar raglen The Voice ac sy’n dysgu siarad Cymraeg.

Ar ôl perfformio cân o’r enw ‘Ti’n Frawd i Mi’, cafodd ei gyfweld gan y cyflwynydd Trystan Ellis Morris, a drodd i’r Saesneg i siarad gyda Ragsy.

Bu i hynny hyn ennyn tipyn o ymateb ar Twitter, gyda gwylwyr yn canmol Ragsy am ymdrechu â’r Gymraeg ac yn beirniadu’r cyflwynydd am droi i’r Saesneg.

“Oh Trystan Trystan siarad yn saesneg gyda Ragsy sy trio ei ore i siarad Cymraeg :-/,” meddai Nia Llywelyn.

“Siarada Gymraeg efo Ragsy … Parcha’r dysgwyr” meddai Haydn Hughes.

“Da iawn Ragsy am ymateb yn Gymraeg pan nath Trystan gorfod troi i’r Saesneg,” meddai John Derek Rees.