Am y tro cyntaf ers bron i ugain mlynedd, ni fydd cymdeithas Gymreig dinas Dulyn yn cynnal noson i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni.

Bob blwyddyn, mae cymdeithas Draig Werdd yn cynnal digwyddiad i ddathlu diwrnod ein nawdd sant, gyda’r nosweithiau’n amrywio o fod yn rhai ffurfiol ac anffurfiol am yn ail.

Ond eleni – oherwydd dryswch rhwng y trefnwyr a chynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Nulyn – fydd y cyfarfod anffurfiol ddim yn digwydd.

Y llynedd, fe drefnwyd cinio ffurfiol yn y ddinas, gyda’r sylwebydd rygbi, Huw Llywelyn Davies yn siaradwr gwadd. Eleni, y syniad oedd cael noson gymdeithasol mewn tafarn.

“Yn anffodus, am y tro cyntaf ers bron 20 mlynedd, dydyn ni ddim wedi cynnal noson arbennig ar gyfer Dydd Gwyl Dewi eleni,” meddai Geraint Waters o gymdeithas Draig Werdd wrth golwg360.

“Roedden ni’n bwriadu cynnal noson gymdeithasol mewn tafarn eleni gyda chymorth cynrychiolydd y llywodraeth Cymreig o’r Embassy Prydeinig yma yn Nulyn, ond methodd y cynllun a dydyn ni ddim wedi cael y cyfle i drefnu rhywbeth arall.

“Bydd rhai ohonon ni’n mynd i noson yng nghartref y llysgennad Prydeinig yma ar Fawrth 1,” meddai wedyn, “lle bydd un o weinidogion llywodraeth Cymru (Lesley Griffiths) yn bresennol, gyda Chôr Meibion Cymry Dulyn yn diddanu’r dorf. Ond nid ni sydd wedi trefnu’r noson hon.”

 

Ond erbyn hyn, mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru tros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi na fydd yn gallu teithio i Ddulyn oherwydd tywydd garw.