Mae Prifysgol Caerdydd wedi dechrau menter newydd a fydd yn galluogi ffoaduriaid sy’n byw yn y brifddinas i ddysgu Cymraeg.

Mae’r gwersi Cymraeg yn cael eu trefnu mewn partneriaeth rhwng y brifysgol a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, ac fe fydden nhw’n cael eu cynnal mewn sawl lle yn y ddinas.

Y nod yw cyflwyno bywyd a diwylliant Cymraeg a Chymreig i’r rheiny sy’n dod i Gymru o dramor, lle bydd yr iaith yn cael ei dysgu mewn modd anffurfiol fel rhan o ddigwyddiadau cymdeithasol.

“Wedi cael llawer o ddiddordeb”

Yn ôl un o’r tiwtoriaid, Matt Spry, sy’n ddysgwr ei hunan, mae dysgu Cymraeg yn cynnig “ystod enfawr o fanteision”, ac yn helpu pobol syn symud ir brifddinas “ddod yn rhan o’r gymuned”.

“Rydyn ni wedi gweld llawer o ddiddordeb gan ffoaduriaid sydd am fanteisio ar y dosbarthiadau,” meddai.

“Mae pob un ohonyn nhw’n awyddus i gofleidio diwylliant Cymru a chreu gwreiddiau go iawn yn y ddinas wych yma.

“Bydd y gwersi hyn yn siŵr o gael effaith enfawr ar y rhai sy’n cymryd rhan.”