Bydd goblygiadau Brexit i Gymru yn “hynod o ddifrifol”, medd aelod o Dŷ’r Arglwyddi sydd am i wledydd Prydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Arglwydd Adonis sydd ar ymweliad â gogledd Cymru y penwythnos hwn, fe fydd effeithiau ffiniau caletach a thariffiau yn “niweidiol” i’r wlad.

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd arian cymorth Ewropeaidd i Gymru, mae’n croesawu safiad Llywodraeth Cymru ar Brexit.

“Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod eisiau aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau,” meddai’r Arglwydd Adonis wrth golwg360.

“Mae Carwyn Jones yn credu bod hynny o fudd i Gymru, a dw i’n cytuno ag ef yn llwyr. Ond os ydych am aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, waeth i chi aros yn yr Undeb Ewropeaidd ei hun!

“Oherwydd, os ydym ni yn yr Undeb Ewropeaidd rydym yn creu rheolau’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau. Ac rydyn ni hefyd yn cytuno i delerau rhaglenni datblygu rhanbarthol sydd yn hynod o bwysig i Gymru.

“Os ydyn ni oddi allan i’r Undeb Ewropeaidd, rhaid cytuno i delerau sy’n cael eu llunio hebddon ni.”

Cefnogaeth yng Nghymru

Mae Andrew Adonis yn dweud ei fod “wedi rhyfeddu” â’r gefnogaeth am ail refferendwm Brexit ymysg myfyrwyr a phobol ifanc Cymru.

A’i ddadl ef yw mai dim ond mwyafrif “pitw” oedd gan y bobol a phleidleisiodd o blaid Brexit yng Nghymru dwy flynedd yn ôl.

Daw ei sylwadau wrth iddo alw am ail refferendwm ar Brexit.