Mae sicrhau bod gofalwyr Cymru yn cael eu “parchu a’u cefnogi” yn “flaenoriaeth” i Lywodraeth Cymru, yn ôl llefarydd ar eu rhan.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn nodi eu bod eisiau i weithwyr y sector deimlo eu bod yn “werthfawr”, a’u bod wedi deddfu i sicrhau bod safon gofal o’r “ansawdd gorau”.

“I Lywodraeth Cymru mae sicrhau bod gan Gymru sector gyhoeddus gynaliadwy ac o’r ansawdd gorau – gyda gweithlu sy’n cael eu parchu a’u cefnogi – yn flaenoriaeth,” meddai llefarydd.

 “Mewn argyfwng”

Ymateb yw’r sylwadau i feirniadaeth gan undeb Unsain, sydd yn honni bod system gofal Cymru “mewn argyfwng” a bod angen diogelu hawliau gofalwyr.

Mae’r undeb bellach wedi lansio siarter yn enw gofalwyr a phobol sy’n derbyn eu cymorth, ac maen nhw’n gobeithio y bydd yn cael ei fabwysiadu’n swyddogol.

Mae’n debyg bod y Llywodraeth wedi buddsoddi £19 miliwn i gefnogi’r Cyflog Byw Cenedlaethol, ac wedi buddsoddi £10 miliwn fel bod Awdurdodau Lleol yn medru cefnogi’u cymunedau.