Mae dau o swyddogion cangen Plaid Cymru yn nhref Llanelli wedi ymddiswyddo, wrth i’r ffrae â’r blaid yn ganolog ddwysau.

Mae datganiad gan y gangen heddiw yn nodi bod eu Swyddog Wasg, Sean Rees, ynghyd â’i Swyddog Data, Dyfrig Thomas, bellach wedi camu o’r neilltu ar ôl cael eu trin yn “ofnadwy” gan swyddogion eraill yn yr etholaeth.

Ond, er eu bod yn ymddiswyddo o’u swyddi gyda’r gangen, fe fydd y ddau’n parhau’n aelodau o Blaid Cymru.

Mae Sean Rees wedi cadarnhau ei ymddiswyddiad mewn sgwrs â golwg360, gan nodi bod “llawer wedi digwydd dros y naw mis diwethaf” o fewn cangen Plaid Cymru Llanelli.

“Dw i wedi ymddiswyddo yn bennaf oherwydd y sefyllfa sydd ohoni,” meddai. “Mae’r broses o hyd ar waith. Fy rôl i yn awr yw canolbwyntio ar fy ngwaith yn gynghorydd tref – dyna oedd, a dyna fydd, fy mlaenoriaeth.”

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Dyfrig Thomas am ei ymateb yntau i’r datblygiadau diweddaraf.

Datganiad

Yn ôl datganiad y gangen, mae 25 aelod o etholaeth Llanelli eisoes wedi ymddiswyddo, a bellach maen nhw’n wynebu pwysau gan Blaid Cymru yn ganolog i ildio cofnodion cyfarfod.

Maen nhw’n honni bod y blaid wedi gwrthod cynnal ymchwiliad annibynnol o sefyllfa’r gangen, a heb ymateb i bleidleisiau o ddiffyg hyder i swyddogion etholaeth.

Meddai Plaid Cymru, mewn ymateb i ymddiswyddiad Sean Rees:

“Mae Sean Rees wedi hysbysu Plaid Cymru o’i fwriad i ymddiswyddo o’r pwyllgor etholaeth. Bydd y pwyllgor yn mynd ati i apwyntio swyddog y wasg yn ei le cyn gynted â phosib.”