Mae system gofal Cymru “mewn argyfwng”, a dyw unigolion sydd yn derbyn gofal preswyl ddim yn derbyn y cymorth maen nhw ei angen.

Dyna yw neges undeb Unsain Cymru wrth iddyn nhw lansio siarter yn galw am ddiogelu hawliau gofalwyr a phobol sy’n derbyn eu cymorth.

Cafodd y siarter ei lunio ar y cyd â gofalwyr, ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi yn swyddogol yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 28).

Gobaith yr undeb yw bydd y siarter yn cael ei fabwysiadu’n swyddogol, ac i sicrhau rhagor o arian i’r sector. Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

“Byddin anweledig”

“Mae gofalwyr yn fyddin anweledig,” meddai Andy Rutherford, Prif Drefnydd Unsain Cymru ar faterion yn ymwneud â gofal cymdeithasol.

“Maen nhw’n darparu gofal angenrheidiol i’n cymunedau, ond mae eu hamodau gwaith ofnadwy yn cael eu hanwybyddu gan gymdeithas ac maen nhw’n derbyn cyflog bychan.

“Rhaid i wleidyddion ar bob lefel deall y bydd safon y gofal yn gwella, os fydd gweithwyr gofal yn cael eu trin yn deg ac yn derbyn cefnogaeth ddigonol.”