Mae ffermwr o Gwm Prysor, sydd wedi mynd heb fwyd am wythnos fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu Cymru, yn dweud y gallai fynd “wythnos… mis arall” dros yr achos.

Fe gyrhaeddodd Elfed Wyn Jones y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 27) ar ol yfed dim ond dwr am saith niwrnod.

Yfory, fe fydd gwleidyddion Bae Caerdydd yn trafod mater darlledu yn y Siambr – a dyma, meddai’r ymgyrchydd, y cyfle i ddechrau ar y broses o greu gwir ddemocratiaeth i Gymru.

“Dw i wedi bod eisiau gwneud hyn ers blwyddyn, ers blynyddoedd,” meddai wrth golwg360, gan weld y cyfle i ddod â rheolaeth tros ddarlledu a’r cyfryngau o Lundain i Gaerdydd, yn gam at fwy o ddemocratiaeth.

Dyma sut mae Elfed Wyn Jones yn meddwl am yr wythnos a aeth heibio…