Mae cyn-aelod o gangen Plaid Cymru yn Llanelli wedi cymharu prif swyddogion y blaid â gwleidyddion gwledydd Sbaen a Thwrci, am iddyn nhw, meddai, geisio mygu barn aelodau.

Mewn cyfres o lythyrau at Gadeirydd, Prif Weithredwr ac Arweinydd Plaid Cymru, sydd wedi dod i law golwg360, mae Mary Roll yn dadlau’n gryf tros gynnal “ymchwiliad iawn” i’r modd y cafodd ymgeisydd ei dewis ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2017… ac yn erbyn y modd y cafodd pryderon aelodau eu trin yn ganolog.

Fe arweiniodd y ffrae at ymddiswyddiad nifer o aelodau cangen Llanelli; at wahardd dros dro gangen gyfan y dref ddiwedd yr wythnos ddiwethaf; ac at gynnal cyfarfod neithiwr rhwng rhai o’r prif swyddogion ac aelodau lleol.

Llythyr ymddiswyddiad

“Y cyfan rwy’ i wedi galw amdano yw cyfiawnder ac ymchwiliad teg,” meddai Mary Roll, a ymddiswyddodd o Blaid Cymru ar Chwefror 19 eleni

“Pe bai gennych chi gydwybod, fe fyddech chi’n derbyn hyn. Os ydych chi’n ofni’r wasg, mae gennych broblem go iawn.

“Os ydw i mo’yn siarad â’r wasg, fe wna’ i hynny,” meddai Mary Roll wedyn. “A ydych chi’n mynd i fy nhaflu i’r carchar, fel [Recep Tayyip] Erdogan yn Nhwrci? Rydych chi’n waeth na Mariano Rajoy a’r Sbaenwyr. Cyn ymddangos fel pe baech yn cefnogi’r Catalaniaid, fe fyddai’n rheitiach i chi roi trefn ar eich ty eich hunain yn gyntaf.

“Mae rhyddid barn yn hawl ddemocrataidd sylfaenol. Pe bai’r Llywodraeth Geidwadol wedi gwneud hanner beth ydych chi wedi’i wneud, fe fyddai twrw mawr. Cywilydd arnoch chi. Rydych chi’n unbeniaethol, yn annheg, a does ond modd eich cymharu gyda chyfundrefnau unbeniaethol y byd.

“Mae eich honiad mai o’r gwaelod lan y mae’r drefn yn gweithredu, yn un chwerthinllyd.”

Cyfarfod nos Lun 

Oherwydd iddi ymddiswyddo wythnos yn ol, doedd Mary Roll ddim yn bresennol yn y cyfarfod rhwng aelodau cangen y dref a phrif swyddogion Plaid Cymru neithiwr (nos Lun, Chwefror 26).

Er hynny, mae hi’n dweud wrth golwg360 mai’r argraff ar lawr gwlad, ac ymysg y rheiny sy’n cymryd diddordeb yn y datblygiadau, yw na wnaed “dim cynnydd o gwbwl”.

“Fy nealltwriaeth i,” meddai Mary Roll, “ydi mai’r cyfan ddigwyddodd oedd fod Cadeirydd ac Ysgrifennydd y gangen leol wedi dod dan bwysau i drosglwyddo cofnodion y cyfarfod lleol pan benderfynon ni gyhoeddi datganiad i’r wasg ynglyn â’n hanfodlonrwydd.

“Y bwriad, wrth gwrs, oedd i’r swyddfa ganolog gael rhestr o’r aelodau oedd yn bresennol, er mwyn eu disgyblu nhw. Mae’r gangen wedi gwrthod trosglwyddo’r cofnodion, ac o be’ dw i’n ddeall, fe fyddan nhw’n cael eu disgyblu gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid, o ganlyniad.”

Mae golwg360 wedi ceisio ymateb Plaid Cymru i gyfarfod nos Lun, Chwefror 26, ac i’r sylwadau hyn.