Roedd cyfarfod neithiwr rhwng prif swyddogion Plaid Cymru a changen Llanelli yn un “positif”, yn ôl aelod a chynghorydd tref sy’n mynnu fod “popeth yn dda”.

Fe gynhaliwyd y cyfarfod nos Lun yn sgil ffrae a arweiniodd at wahardd aelodau’r gangen gyfan yr wythnos ddiwethaf.

“Roedd y cyfarfod yn un positif, trwy gydol yr holl beth,” meddai’r Cynghorydd Terry Davies. “Rydyn ni eisiau gweithio tros Lanelli, a dyna beth mae pawb mo’yn.

“Mae’r sefyllfa yn un sensitif,” meddai wedyn, “ond er hynny, mae popeth yn dda yn Plaid.”

Doedd ysgrifennydd y gangen, Howell Williams, ddim am roi sylw ar y stori nac ar gyfarfod neithiwr. Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru hefyd am ymateb.

Y cefndir

Yr hyn sydd wrth wraidd y ffrae yw penderfyniad Plaid Cymru i benodi Mari Arthur yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth Llanelli yn Etholiad Cyffredinol 2017.

Roedd aelodau’r gangen wedi gwrthwynebu’r penderfyniad ar y pryd, ac yn sgil hynny cafodd dau aelod o’r blaid yn Llangennech, ger Llanelli, eu gwahardd.

Bellach mae un o’r ddau yma, Gwyn Hopkins, wedi ymddiswyddo’n swyddogol o fod yn aelod o Blaid Cymru.