Mae rhybudd tywydd melyn mewn grym ledled Cymru heddiw, ac mae disgwyl oedi ar y ffyrdd, yn yr awyr ac ar y rheilffyrdd o ganlyniad i gawodydd eira a thymheredd isel iawn.

Mae’n bosib na fydd hi’n bosib teithio o gwbwl ar ffyrdd mewn rhai ardaloedd gwledig, ac yn ogystal â hynny mae dynion tywydd yn rhybuddio y gallai rhai mannau golli eu cyflenwad trydan.

Â’r rhybudd tywydd melyn mewn grym tan ganol nos dros rannau helaeth o wledydd Prydain, mae rhybudd tywydd oren – rhybudd llymach – mewn grym mewn ardaloedd yn nwyrain Lloegr.

Gwaeth i ddod?

Mae disgwyl i’r tywydd gaeafol yma bara am sawl diwrnod, gyda dynion tywydd yn rhybuddio am gawodydd eira hyd ddiwedd yr wythnos.

Mae’n ddigon posib bydd y tymheredd yn plymio i finws 15C erbyn canol yr wythnos, ac ar ddydd Iau mi fydd Storm Emma -â’i gwyntoedd cryfion a chesair- yn cyrraedd ein glannau.