Mae dau gyn-beldroediwr o Gymru, Mark Aizlewood a Paul Sugrue, wedi’u dedfrydu i garchar am gymryd £5m trwy dwyll ar ôl sefydlu cwmni prentisiaethau ffug.

Yn Llys y Goron Southwark heddiw (Chwefror 26), fe gafodd y cyn-chwaraewr dros Gymru, Mark Aizlewood, 56 oed, ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o gynllwyno i dwyllo trwy gynrychiolaeth ffug.

Cafodd Paul Sugrue, cyn-chwaraewr Caerdydd, Middlesbrough a Manchester City ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar, am ddau gyhuddiad o’r un drosedd

Yn ôl y barnwr David Tomlinson, fe gafodd y cynllun y bu’r ddau’n rhan ohoni “effaith niweidiol difrifol” ar rai colegau.

Roedd y ddau hefyd wedi bod yn cymryd “swm enfawr” o arian y Llywodraeth, a hynny dan esgus eu bod nhw’n rhoi cymorth i blant difreintiedig.

“Dyma ecsploitio a oedd, yn ddigon syml, yn amharchus,” meddai’r barnwr.

Y cefndir

Trwy gyfrwng y cwmni Luis Michael Training Cyf., roedd y ddau wedi bod yn hawlio arian gan Lywodraeth San Steffan gan addo darparu cymwysterau arbennig i filoedd o bobol ifanc o ardaloedd difreintiedig.

Ond doedd cannoedd o’u disgyblion honedig ddim yn bodoli, mewn gwirionedd, ac er addo darparu hyfforddiant llawn amser, roedd rhai o’r disgyblion ond wedi derbyn dwy awr o hyfforddiant yr wythnos.

Roedd Keith Williams 45, o Ynys Môn; Christopher Martin, 53, o Berkshire; a’r hyfforddwr Jack Haper, 30, o Lannau Merswy, hefyd yn rhan o’r cynllun, ac mae’r tri wedi derbyn cyfnodau yn y carchar am droseddau tebyg.