Mae cwest i farwolaeth merch 5 oed o Gasnewydd wedi clywed sut y bu farw wedi pwl difrifol o asthma ar ôl cael ei gwrthod o apwyntiad brys gyda meddyg oherwydd ei bod hi’n hwyr.

Yn ôl ei mam, Shanice Clark, roedd Ellie-May Clark, a oedd yn dioddef o asthma, wedi cyrraedd meddygfa’r Grange yng Nghasnewydd bum munud yn hwyr o’i hapwyntiad am 5yh ar Ionawr 25, 2015.

Roedd gan Doctor Joanne Rowe “reol deng munud”, lle’r oedd hi’n gwrthod gweld cleifion os oedden nhw’n hwyr, ac ar ôl i’r fam aros i weld y derbynnydd, fe glywodd nad oedd y doctor am eu gweld.

Fe gafodd Ellie-May Clark drafferthion anadlu yn ddiweddarach y noson honno, ac fe fu farw yn fuan ar ôl cyrraedd Ysbyty Brenhinol Gwent.

“Rheol deng munud”

Clywodd y cwest fod Ellie-May wedi ei chadw o’r ysgol am bedwar diwrnod oherwydd trafferthion anadlu cyn ymweld â meddygfa’r Grange ar Ionawr 22.

Dywedodd Shanice Clark ei bod hi wedi cael trafferthion pellach ar Ionawr 25, ac fe sylwodd ar hynny pan oedd yn ei chasglu o Ysgol Cwrt Malpas am 3yh.

Fe wnaeth hi wedyn gario ei merch i dŷ ei mam, a ffonio’r feddygfa am 3:30yp gan ofyn am ymweliad cartref.

Ond erbyn 4:35yp, roedd y derbynnydd wedi ei ffonio’n ôl yn dweud bod apwyntiad brys wedi’i threfnu ar gyfer 5yh – gyda’r fam yn rhybuddio y byddai’n hwyr.

Ac ar ôl cyrraedd am 5:05, ac aros bron i ddeng munud am sylw derbynnydd, fe gafodd Shanice Clark ei hysbysu nad oedd y doctor am ei gweld ac y byddai’n rhaid iddi ddychwelyd y bore trannoeth.

Dechreuodd Ellie-May Clark beswch yn ddifrifol am 10:30yh, ac ar ôl ei gweld yn troi’n las, fe ffoniodd ei mam am ambiwlans.

Post-mortem

Yn ôl y meddyg fu’n cynnal yr archwiliad post-mortem, bu farw Ellie-May o asthma, a’i bod wedi dioddef o drawiad yn fuan cyn ei marwolaeth oherwydd prinder ocsigen.

Mae crwner Gwent, Wendy James, wedi cyhoeddi dyfarniad naratif. Dywedodd bod Ellie-May wedi marw o achosion naturiol a bod cyfle i roi triniaeth a allai fod wedi achub ei bywyd wedi’i golli.