Mae Prif Weithredwr newydd y corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi galw ar i’r amgylchedd gael lle canolog er lles Cymru.

Mewn neges ar ei diwrnod cyntaf yn y swydd, mae Clare Pillman yn cydnabod bod heriau “sylweddol” gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth a phwysau cynyddol ar yr amgylchedd.
Ond, mae hefyd yn nodi bod gan bobol Cymru “gyfle gwych” i weithredu fel bod modd trosglwyddo’r wlad mewn cyflwr gwell i genedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd: “Mae gennym waith pwysig i’w wneud – gofalu am yr amgylchedd gwych sydd gennym yng Nghymru fel y gall pawb fyw bywydau gwell ac fel bod ein bywyd gwyllt yn ffynnu.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r holl sefydliadau a phobl sy’n ymwneud â’r amgylchedd naturiol yng Nghymru,  clywed eu barn, a gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau ein bod ni’n trosglwyddo’n hadnoddau naturiol yn y cyflwr gorau posibl i’n plant a’n wyrion,” meddai.

Cefndir

Yn ei swyddi blaenorol roedd Clare Pillman yn rhannol gyfrifol am bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwylliant, twristiaeth a chwaraeon.

Trwy’r swydd yma bu’n gweithio â sawl corff gan gynnwys Historic England, Visit Britain, UK Sport a’r Parciau Brenhinol.

Hefyd ar un adeg bu’n gyfrifol am redeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yng Nghymru.

Wrth ddechrau yn ei rôl newydd, mae hi’n cymryd yr awenau  oddi wrth Kevin Ingram a fu yn y swydd dros dro, ar ôl i’r Prif Weithredwr blaenorol, Emyr Roberts, ymddeol ym mis Hydref.