Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i greu tîm arbennig, fydd yn ymdrin â masnachu pobol.

Mae’n debyg bod y mater yn “broblem gynyddol” yn yr ardal, a gobaith y llu yw bydd y tîm yn “mynd i’r afael” â hi.

Bydd gan y tîm sawl swyddogaeth gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant i gydweithwyr a dyfnhau perthynas y llu ag asiantaethau eraill.

Ac ymhlith y pum aelod bydd Ditectif Ringyll, Ditectif Gwnstabl a Chwnstabl Heddlu parhaol, ymchwilydd a dadansoddwr.

Rhwng 2014 a 2016 bu cynnydd o 75% yn nifer y cofnodion o bobol wnaeth gael eu heffeithio gan fasnachu pobl yng Nghymru, yn ôl ffigyrau gan yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.