Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyfarfod ffigyrau busnes yn yr Unol Daleithiau’r wythnos hon, er mwyn denu masnach a buddsoddiad i Gymru.

Yn ystod ei ymweliad bydd yn cwrdd ag arweinwyr busnes o’r Unol Daleithiau a Chanada, ac yn trafod cysylltiadau masnach gyda chynrychiolwyr gwleidyddol.

Yn ogystal â hynny bydd yn annerch y Cenhedloedd Unedig ddydd Mercher (Chwefror 28), a chyfarfod â’r cyn-ymgeisydd arlywyddol, Hillary Clinton.

Ar ddydd Iau (Mawrth 1), bydd yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Capitol Hill, Washington.

Cyfleoedd cyffrous

“Mae cyfleoedd cyffrous i fasnachu â Gogledd America o’n blaen ac, wrth drafod â busnesau a gwleidyddion America, fe fyddaf yn pwysleisio eto ein hymrwymiad i roi hwb i fasnach rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau,” meddai Carwyn Jones.

“Wrth i Gymru a’r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, hoffwn i sicrhau buddsoddwyr ac ymwelwyr o’r Unol Daleithiau bod Cymru’n parhau i fod yn wlad agored a chroesawgar.”

Prif fuddsoddwr

Yr Unol Daleithiau yw’r wlad tramor sydd yn buddsoddi mwyaf yng Nghymru, ac mae 270 o gwmnïau sydd â pherchnogion o America, wedi’u lleoli yma.

Ar ben hynny, yr Unol Daleithiau yw un o brif bartneriaid masnach Cymru. Roedd allforion i’r Unol Daleithiau yn werth £2.1 biliwn i economi Cymru yn 2016.