Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r actor Trefor Selway yn dilyn ei farwolaeth yn 86 oed.

Roedd yn athro ac yn brifathro, yn actor amlwg ar lwyfan a theledu, ac yn ffigwr blaenllaw yn nyddiau cynnar y theatr Gymraeg.

Roedd o a’i ddiweddar frawd, Alwyn, wedi’u magu ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle, cyn iddo symud i Eglwysbach, Dyffryn Conwy, lle treuliodd y rhan helaethaf o’i oes.

Ar y sgrîn, roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Evan yn y gyfres Hafod Haidd (1998), ac am ei ran yn y ffilm Oed yr Addewid (2002) yn y Gymraeg, a Storms of Justice (1988) a Wild Justice (1994) yn Saesneg.

Roedd hefyd wedi bod yn y cyfresi Palmant Aur ac A Mind To Kill.

Fe gollodd Trefor Selway ei olwg yn ystod ei flynyddoedd olaf, ond fe gofleidiodd dechnoleg fodern ar ei gyfrifiadur a oedd yn ei alluogi i ddarllen negeseuon a mathau eraill o destun.
Mae’n gadael Liz, ei weddw; ei ferch, Alwen; ei wyres, Catherine; a dwy or-wyres, Harper ac Olivia. Bu farw ei fab, Owain, mewn tân yn 2005.

Teyrngedau

Mae teyrngedau’n dechrau ymddangos ar wefan gymdeithasol Twitter.

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy, Cefin Roberts:

Ac fe ddaeth y neges hon gan y telynor Dylan Cernyw: