Mae Ysgrifennydd Cymru wedi herio Llywodraeth Cymru i osod camerâu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn y wlad, fel sydd am ddigwydd yn Lloegr.

Yn ôl Alun Cairns, mae angen i wleidyddion ym Mae Caerdydd efelychu Llywodraeth San Steffan a chyflwyno deddfwriaeth i orfodi CCTV mewn lladd-dai.

Erbyn diwedd y flwyddyn, bydd lladd-dai dros Glawdd Offa yn gorfod rhoi CCTV yn eu hadeiladau, dan gyfraith newydd i wella safonau byw anifeiliaid.

“Mae’r ddeddfwriaeth yn enghraifft glir o ymrwymiad cadarn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau’r safonau byw anifeiliaid uchaf posib yn y Deyrnas Unedig,” meddai Alun Cairns.

“Mae’n amlwg bod barn gref gan y cyhoedd y dylai pob anifail gael ei drin gyda’r parch mwyaf ar bob cam yn ei fywyd…

“Bydden i’n annog Gweinidogion Cymru ym Mae Caerdydd i wrando ar y lleisiau hynny ac ymchwilio i ba gamau pellach gallan nhw gymryd i gyflwyno’r un ddeddfwriaeth yng Nghymru i sicrhau’r safonau uchaf yn iechyd a lles anifeiliaid a diogelwch bwyd yn gyffredinol.”

“Safonau lles anifeiliaid gorau’r byd”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi cyflwyno nifer o fesurau lles anifeiliaid cyn Lloegr.

“Mae gennym rai o safonau lles anifeiliaid gorau’r byd a rheoliadau llym i fynd i’r afael â phobl sy’n mynd yn groes i’r safonau hynny. Mae nifer o reolau yn eu lle eisoes mewn lladd-dai ac mae milfeddygon swyddogol yn bresennol, yn cadw golwg ar les anifeiliaid ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cadw at y rheoliadau.

“Mae CCTV wedi’i osod yn y lladd-dai mwyaf, lle mae’r rhan fwyaf o anifeiliaid yn cael eu prosesu, ac mae milfeddygon swyddogol yn gallu edrych ar y lluniau os oes lle ganddyn nhw i gredu bod y safonau lles yn cael eu torri.

“Rydyn ni’n benderfynol o wella safonau ac arferion lle bo angen eu gwella. Rydyn ni’n ystyried pob barn cyn pwyso a mesur y goblygiadau a phenderfynu pa gamau i’w cymryd nesaf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar les anifeiliaid yn y gadwyn fwyd ym mis Mawrth.”