Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn anelu at ddarparu 1,000 yn rhagor o gartrefi i’r ddinas.

Roedd cynghorwyr eisoes wedi ymrwymo i greu 1,000 cartref newydd erbyn 2022, ac mae’r Cyngor wrthi’n prynu ac adnewyddu tai i wireddu’r targed hwn.

Rhwng y ddau ymrwymiad mae cynghorwyr yn gobeithio darparu cyfanswm o 2,000 o dai cyngor newydd, ond nid yw’n glir erbyn pryd fydd targed newydd yn cael ei gyflawni.

Mae cynghorwyr wrthi’n clustnodi eiddo a thir addas dan berchenogaeth y Cyngor ar gyfer y targed newydd.

Rhestr aros “hir iawn”

“Rydym yn deall pa mor bwysig yw cael cartref fforddiadwy o ansawdd da,” meddai’r Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau.

“A chyda’r rhestr aros tai hir iawn yn y ddinas, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y cyfan a allwn i fynd i’r afael â’r pwysau cynyddol i ddarparu cartrefi addas i’r bobl sydd eu hangen arnynt.”