Mae angen “cryn newid” i raglen gan Lywodraeth Cymru sy’n targedu plant o gefndiroedd difreintiedig, yn ôl Aelodau Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg, wedi dod i’r casgliad nad yw’r prosiect ar waith mewn ardal ddigon eang, gan olygu bod “nifer sylweddol” o blant wedi’u neilltuo.

Yn ogystal â hynny, mae £600m wedi’i fuddsoddi yn y prosiect ers ei sefydlu yn 2007, ond yn ôl y pwyllgor, “prin yw’r dystiolaeth gadarn” ei fod wedi gwella bywydau plant a rhieni.

Mae rhaglen ‘Dechrau’n Deg’ yn darparu gofal i blant rhwng 2-3 oed mewn ardaloedd “mwyaf difreintiedig Cymru” ac yn cael ei hystyried yn “brif flaenoriaeth” gan y Llywodraeth.

Angen “hyblygrwydd”

“Rydym yn croesawu gwaith caled y rheiny sy’n darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg ledled Cymru,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.

“Serch hynny, gyda’r rhan fwyaf o’r plant sy’n byw mewn tlodi y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg, rydym yn credu bod angen rhagor o hyblygrwydd i alluogi’r rhaglen i gyrraedd y sawl sydd â’r mwyaf o angen.”

“Sicrhau’r dechrau gorau”

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r adroddiad, ac wedi nodi bod “sicrhau’r dechrau gorau posib i blant yn eu bywydau, yn brif flaenoriaeth”.

“Yn 2016/17 fe elword dros 37,600 plentyn o wasanaethau Dechrau’n Deg, a wnawn ni barhau i gefnogi cymaint o deuluoedd ag sy’n bosib trwy’r rhaglen,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.