Fe gafodd y gwasnaethau tân ei alw i adran ddamweiniau Ysbyty Gwent yng Nghasnewydd, er mwyn ryddhau organau cenhedlu dyn oedd wedi mynd yn sownd mewn sbaner cylch.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr offer torri i gynorthwyo staff yr ysbyty wrth ryddhau genitalia‘r gwr. 

Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rybuddio dynion ynglyn â pheryg defnyddio teclynnau o’r fath ar rai rhannau o’r corff.

“Os ydych chi’n defnyddio teclynnau, sicrhewch eich bod yn dilyn argymhellion y gwneuthurwyr,” meddai’r gwasanaeth ar wefan Twitter, cyn ychwanegu sylw oedd i fod yn ddoniol.

“Roedd criwiau o Maendy a Malpas wedi gorfod rhyddhau sbaner cylch oddi wrth ddyn a aeth â’r [syniad o] ‘sgriwio’r nyten’ i lefel arall…”

Mae’r neges bellach wedi’i dileu.