Mae tri chwarter o’r holl alcohol yng Nghymru yn cael ei yfed gan y 22% o oedolion sy’n yfwyr peryglus a niweidiol, yn ôl adroddiad newydd.

O fewn y ffigwr hwn wedyn, mae’r 3% o’r boblogaeth sy’n yfwyr peryglus yn gyfrifol am 22% o’r holl alcohol sy’n cael ei yfed.

Mae’r adroddiad wedi cael ei baratoi gan y Grŵp Ymchwil Alcohol ym Mhrifysgol Sheffield, sy’n asesiad ar fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno isafbris ar gyfer gwerthu alcohol.

Daw’r adroddiad i’r casgliad mai’r yfwyr niweidiol mwyaf difreintiedig fyddai’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr isafbris – sef y rheiny sydd yn y perygl mwyaf o ddioddef niwed yn sgil eu harferion yfed.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod poblogaeth Cymru yn prynu 50% o’u halcohol am lai na 55c yr uned; 37% am lai na 50c yr uned, a 27% am lai na 45c yr uned, gyda’r yfwyr trwm wedyn yn fwy tebygol o brynu alcohol sy’n cael ei werthu islaw’r prisiau hyn.

Isafbris yn “effeithiol”

“Pobl sy’n yfed lefelau peryglus a niweidiol o alcohol sy’n gyfrifol am 75% o’r alcohol sy’n cael ei yfed yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd ym Mae Caerdydd.

“Byddai cyflwyno isafbris uned yn effeithiol wrth leihau’r defnydd o alcohol ymysg y grwpiau hyn, yn ogystal â lleihau nifer y marwolaethau a’r derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol.”