Mae cynghorydd yn Sir Ddinbych wedi galw ar y cyngor sir lleol ystyried peidio â bancio a’r cwmni, NatWest, a symud i fanc arall.

Mae penderfyniad NatWest i gau canghennau yn Sir Ddinbych yn golygu mai dim ond un banc sydd ar ôl gyda nhw yn y sir bellach, sef yr un yn y Rhyl.

Fe gyhoeddodd Barclays fis diwethaf hefyd y bydd eu canghennau yn nhrefi Dinbych a Rhuthun yn cau hefyd, gan olygu mai dim ond HSBC sydd ar ôl â changen yn y ddwy dref.

Ac yn ôl Huw Jones, cynghorydd Plaid Cymru dros Gorwen, ni ddylai banciau fel NatWest sydd wedi “amddifadu” cymunedau’r sir gael eu “gwobrwyo” gan fusnes y Cyngor – sy’n bancio gyda’r cwmni.

“Gadael pobol i lawr”

“Ein dyletswydd ni yw gwasanaethu pobl Sir Ddinbych,” meddai Huw Jones. “Mae angen banciau cymunedol ar ein pobol ni yma.

“Mae arian parod yn parhau i gael ei ddefnyddio yn eang yma, yn enwedig ymhlith yr henoed, gyda nifer yn parhau i fod yn ddibynnol ar arian parod er mwyn medru mynd o amgylch eu pethau o ddydd i ddydd.

“Mae clybiau a chymdeithasau, capeli, eglwysi ac elusennau yn casglu arian parod yn rheolaidd; mae busnesau bach lleol yn gorfod bancio arian parod ac angen arian mân.

“Mae’r bobol yma oll wedi cael eu gadael i lawr gan y banciau mawr yma a gafodd eu hachub ganom ni rai blynyddoedd yn ôl.”