A hithau’n ddiwrnod Ymweld â Fy Mosg drwy wledydd Prydain ddydd Sul diwethaf, fe fu 12 o fosgiau yng Nghymru yn cymryd rhan, gan agor eu drysau i’r cyhoedd.

I Laura Jones, o Gaerdydd, sydd wedi bod yn Fwslim ers 11 o flynyddoedd, mae’r ddiwrnod yn un pwysig, yn enwedig yn dilyn yr ymosodiad diweddar ar Fwslemiaid yn Llundain, gan Darren Osborne, o Gaerdydd.

Dywed y fenyw 29 oed fod llawer yng nghymuned Fwslemaidd y brifddinas wedi teimlo’n fwy ofnus i adael eu cartrefi yn dilyn yr ymosodiad ac wedi synnu bod yr eithafwr wedi dod o Gymru.

“Mae’r profiad ar y cyfan yn dda, mae llawer o bethau yn digwydd yng Nghymru sy’n dod â chymunedau gwahanol gyda’i gilydd,” meddai Laura Jones wrth golwg360 am fod yn Fwslim yng Nghymru.

“… Ond ar y llaw arall, mae rhai problemau fel Islamaffobia a discrimination, pethau fel yna, pethau sy’n heriau i bobol sy’n Fwslemiaid dros Gymru.

“Dw i ddim yn siŵr os mae [Islamaphobia] yn cynyddu, ond yn bendant mae e’n digwydd. Mae pobol yn cael abuse ar y stryd ond mwy na hynny, mae rhai agweddau drwg [wedi’i hanelu at] Islam, er enghraifft y dyn o Gaerdydd sydd wedi [cynnal] ymosodiad yn Llundain dros yr haf.

“Roeddwn i’n synnu bod e’n dod o Gaerdydd, mae’n ymddangos bod agweddau drwg yn bodoli yng Nghymru.

“Dw i’n byw yng Nghaerdydd a dw i’n nabod pobol sy’n byw ar bwys lle roedd e’n byw yng Nghaerdydd a dw i wedi bod i gymaint o bethau yng Nghaerdydd, lle mae yna agweddau da [tuag at] bobol eraill.

“Felly roeddwn i’n synnu bod e’n rhan o’r gymuned [yng Nghaerdydd] hefyd.”

Codi ofn

Ac er bod y gymuned ehangach wedi bod yn gefnogol i Fwslemiaid yr ardal, dywed Laura Jones bod yr ymosodiad wedi codi pryderon.

“Dw i wedi siarad â phobol yng Nghaerdydd am y peth ar y pryd, ac roedden nhw’n teimlo’n tipyn bach mwy nerfus yn mynd allan ac yn fwy ofnus am beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol.

“I ddweud y gwir, dw i wedi teimlo’n fwy ofnus o hynny hefyd, ond roedd yn dda bod pobol eraill o’r gymuned wedi dod i’r mosg er enghraifft, i ddweud ‘I’m sorry this happened’, pobol sydd ddim yn Fwslemiaid, ond roedd yn dda bod cefnogaeth o’r gymuned yna hefyd.”

Mae Laura Jones yn gwisgo hijab fel rhan o’i chrefydd, a dywed ei bod wedi cael pobol yn gweiddi sylwadau hiliol tuag ati “lond llaw o weithiau”.

“Dw i heb gael unrhyw [brofiadau] rhy ddifrifol ond dw i wedi cael rhai pethau ar y stryd, jyst pethau stupid am bombs neu fod yn Pakistani neu rywbeth fel ‘na, ond dw i ddim yn Pakistani, ond mae pobol jyst yn dweud y stereotypes am bobol sy’n gwisgo hijab.

“… Mae’n dibynnu ar lawer o bethau fel ble wyt ti’n byw a dw i’n credu bod lot o bobol sy’n byw yng nghefn gwlad, mae’n gallu bod yn fwy anodd iddyn nhw achos dyw pobol ddim yn deall pobol o gymunedau eraill yn llefydd fel yna.”

 

Mae Laura Jones wedi ysgrifennu am hanes Mwslimiaid yng Nghymru ar gyfer cylchgrawn dwyieithog Parallel.cymru.