Mae Cadeirydd mudiad Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 bod yna “drafodaeth yn digwydd” ynglŷn â symud Eisteddfod yr Urdd i safleoedd parhaol yn y dyfodol.

Yn ôl Dyfrig Davies, mae’r mudiad eisoes wedi gofyn i Gyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau, Aled Siôn, i baratoi adroddiad ar “senarios posib” – ond does “dim penderfyniad” wedi’i wneud eto.

“Fel gydag unrhyw fudiad arall, r’yn ni wastad yn edrych ar syniadau a datblygiadau gwahanol,” meddai.

“Ond cyn y bydd penderfyniad yn cael ei wneud, mae yna gamau pendant eraill i’w cynnal, gan gynnwys y peth pwysicaf, sef siarad â’n haelodau ni.”

Paratoi ymlaen 

Mae Dyfrig Davies yn dweud bod Bwrdd yr Eisteddfod wedi cymryd y cam hwn fel “mater o baratoi ymlaen”, ac y byddai’r Urdd yn “gwbwl anghyfrifol” pe bawn nhw ddim yn gwneud hynny.

“Mae gan y sefyllfa sydd gyda ni nawr fanteision,” meddai eto. “Ond wedi dweud hynny, mae angen inni allu fforddio cadw i gynnal yr Eisteddfod.

“Mae cymaint yn ddibynnol ar beth yw cefnogaeth leol a chefnogaeth yr awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i’r Eisteddfod.

Llanelwedd yn bosibilrwydd?

Gyda hyn, mae Dyfrig Davies yn edrych ymlaen i weld beth fydd yr ymateb i Eisteddfod yr Urdd eleni, a fydd yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

“Bydd yn ddifyr iawn gweld shwd mae pobol yn ymateb i’r Eisteddfod eleni ar gae’r Sioe,” meddai.

“Ni’n gwbod shwd mae’n nhw’n ymateb i Gaerdydd, achos ry’n ni wedi bod yna o’r blaen. Ond shwd bydden nhw’n ymateb i [Faes y Sioe]?

“Odi hwnnw’n bosibilrwydd? Mae’n ddiddorol.”