Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi ategu adroddiad cenedlaethol sy’n codi pryderon am raddfa ymosodiadau gan gŵn ar dda byw.

Yn ôl yr adroddiad gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), oedd yn canolbwyntio ar bum ardal, roedd 1,705 o gofnodion am ymosodiadau ar gost o £250,000.

Ar hyn o bryd, does dim gorfodaeth ar berchnogion cŵn i adrodd am y fath ddigwyddiadau, a dydyn nhw ddim yn cael eu cofnodi fel troseddau. Mae hynny’n golygu mai rhan o’r darlun yn unig sydd gan yr heddlu.

Gwendidau yn y gyfraith

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o wendidau yn y gyfraith wrth fynd i’r afael ag ymosodiadau ar dda byw.

Does gan yr heddlu ddim hawl ar hyn o bryd i chwilio tai perchnogion am gŵn na mynd â nhw oddi yno ar ôl ymosodiad ar dda byw.

Does gan fusnesau anifeiliaid ddim cyfrifoldeb cyfreithiol am ymosodiadau, hyd yn oed os yw cŵn yn eu gofal yn ymosod ar dda byw.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r drefn honno newid, gan osod gorfodaeth gyfreithiol ar berchnogion i adrodd os yw eu cŵn yn ymosod ar dda byw.

Maen nhw’n galw ar i’r ffiniau daearyddol lle mae’n anghyfreithlon i ymosodiad ddigwydd gael eu hymestyn, gan nad yw rhai lonydd cyhoeddus yn cyfrif fel mannau lle gall trosedd gael ei chyflawni. Ac fe ddylai aflonyddu ar dda byw fod yn drosedd, meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am addasu’r diffiniad o’r hyn yw da byw fel ei fod yn cynnwys lamaod, alpacaod, emiwod ac estrysod. Dydyn nhw ddim wedi’u gwarchod gan y gyfraith ar hyn o bryd.

Croesawu

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi argymhellion yr adroddiad ac fe ddywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins fod ei fod yn “amserol”.

Dywedodd y byddai’r argymhellion “o fudd i ddioddefwyr y troseddau hyn a’r swyddogion sy’n ymchwilio iddyn nhw”.

“Fe ddylai fod y Swyddfa Gartref yn gofyn bod heddluoedd yn cofnodi ymosodiadau ar dda byw ac ar anifeiliaid sydd heb eu rhestru ar hyn o bryd fel da byw fel troseddau ar gofnod.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu ein bod ni’n colli’r cyfle i wella darlun y data.”

Dywedodd ei bod yn “hanfodol bwysig” fod perchnogion cŵn yn cymryd cyfrifoldeb am ymosodiadau drwy adrodd amdanyn nhw.