Bydd grŵp o ferched o ogledd Cymru yn lansio ymgyrch arbennig y mis nesaf, gyda’r nod o ddod â rhyfel i ben ledled y byd.

Fe fydd prosiect ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ yn para am saith mlynedd, ac yn cael ei lansio ar Fawrth 8 i gyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol Merched.

Pedair dynes o Wynedd – Ifanwy Williams, Iona Price, Anna Jane Evans ac Awel Irene – sy’n gyfrifol am yr ymgyrch, ac maen nhw eisoes wedi sefydlu deiseb heddwch sydd â thros fil o lofnodion arni.

Mae’r prosiect wedi’i ysbrydoli gan ddau ddigwyddiad hanesyddol – sefydliad deiseb heddwch (a ddenodd dros 390,000 o lofnodion) yn 1923, a gorymdaith heddwch merched gogledd Cymru yn 1926.

“Byd di-ryfel”

“Syfrdandod oedd fy ymateb cyntaf o ddod ar draws y ddeiseb ryfeddol yma ac anghredinedd nad oeddwn erioed wedi clywed amdani,” meddai Iona Price, un o drefnwyr ‘Heddwch Nain/Mam-gu’.

“Dyna yw ymateb y mwyafrif o bobol.  Felly daeth grŵp ohonon ni at ein gilydd – mae’r grŵp yn tyfu bob dydd – i wneud yn siŵr na fydden ni fyth yn anghofio lleisiau’r merched yma ac na fyddai erfyn am heddwch a byd di-ryfel byth yn dod yn angof na chael ei dawelu.”

Y manylion

Mawrth 7: Cyflwyniad am 7.30yh yng Nghroesor, Llanfrothen, gan y ffotograffydd, Lee Karen Stow, a fydd yn rhannu ei phrofiadau am dynnu lluniau o ferched sydd wedi’u heffeithio gan ryfel.

Mawrth 8: Lansiad swyddogol ymgyrch ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ ym mhentref Croesor am 2.30yh. Cynnal trafodaeth ar gyfer Dydd Rhyngwladol y Merched ym Mlaenau Ffestiniog am 6yh.