Mae mam o ogledd Cymru wedi cyfadde’i bod wedi lladd a gwenwyno ei mab saith wythnos oed.
Ar ddechrau’r achos yn ei herbyn tros wythnos yn ôl, roedd Hannah Turtle, 22 oed, o Shotton, Sir y Fflint, wedi gwadu’r cyhuddiad o lofruddio ei mab, James Hughes, ynghyd â thri chyhuddiad o gam-drin ac esgeuluso ei babi a dau gyhuddiad o wenwyno.
Ynghynt heddiw, ar seithfed diwrnod yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug, fe newidiodd ei phle ac mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ddydd Iau.