Mae dwy ferch wedi cael eu hachub oddi ar greigiau ym Mhenrhyn Gŵyr

Fe wnaeth yr heddlu, timau achub ac hofrennydd ddod o hyd i’r ddwy, sydd yn eu hugeiniau cynnar, ger Pen Pyrod ar draeth Rhosili, Penrhyn Gŵyr, tua saith neithiwr.

Roedd y ddwy’n anymwybodol ac angen triniaeth feddygol – fe gawson nhw eu cludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Nhreforys, lle maen nhw’n parhau i dderbyn triniaeth.

Mae golwg360 yn deall nad  oedd y ddwy wedi cael damwain wrth gerdded nac wedi cael trafferthion yn y dŵr – roedden yr awdurdodau wedi cael clywed ynghynt eu bod ar goll.