Mae cadwraethwr wedi cyfiawnhau ymgyrchoedd i ladd y wiwer lwyd yn Ynys Môn er budd y wiwer goch gan ddadlau nad oes yna ddewis arall.

Er mai dim ond rhyw 40 wiwer goch oedd ar yr ynys rhyw ddau ddegawd yn ôl, bellach mae tua 700 yn byw yno yn dilyn ymdrechion i ail gyflwyno’r creadur.

“Pe tasai yna ddull arall, mi fydden ni’n ei groesawu,” meddai Craig Shuttleworth o Ymddiriedolaeth y Wiwer Goch, wrth golwg360 yn sgil adroddiad sy’n awgrymu mai un rheswm am lwyddiant y gwiwerod llwyd yw eu clyfrwch.

Yr ymchwil

Roedd gwyddonwyr ym Mhrifysgolion Exeter a Chaeredin wedi rhoi profion i wiwerod gwyllt o’r ddau liw – tra oedd y ddau fath wedi datrys un prawf yn hawdd, roedd y gwiwerod llwyd yn llawer gwell ar dasg fwy cymhleth.

O ganlyniad, mae’r gwyddonwyr yn awgrymu mai eu clyfrwch yw un rheswm pam fod gwiwerod llwyd wedi cynyddu a disodli gwiwerod coch – fe ddaeth gwiwerod llwyd i weldydd Prydian yn yr 19eg ganrif a, bellach, maen nhw 15 gwaith mwy niferus na gwiwerod coch.

Ynys Môn yw un o’r ychydig ardaloedd lle mae gwiwerod coch wedi goroesi yng Nghymru – mae coedwig Clocaenog ger Rhuthun yn un arall.

Môn ‘ddim eisiau gwiwerod llwyd’

“Ar Ynys Môn dydy’r mwyafrif helaeth o bobol ddim eisiau gwiwerod llwyd yno, ac maen yna banig os ydyn nhw’n credu bod un o gwmpas,” meddai Craig Shuttleworth, gan bwysleisio bod gwiwerod llwyd yn cael eu lladd “mewn modd trugarog”.

“Pan es i i fy swyddog gyrfaoedd pan oeddwn i’n 16, wnes i ddim dweud fy mod eisiau treulio fy mywyd fel oedolyn yn lladd gwiwerod llwyd ond, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i aelodau o’r Undeb Ewropeaidd gymryd camau i reoli poblogaethau a’u hatal rhag lledaenu.

“Felly yn gyfreithiol does dim dewis.”