Myfyriwr yn dechrau ymprydio tros ddatganoli darlledu

 
Llun pen ac ysgwydd o Elfed Wyn Jones gyda llun o bencadlys S4C yn gefndir

Elfed Wyn Jones sy’n ymprydio tros ddatganoli’r cyfrifoldeb am ddarlledwyr fel S4C

Llun S4C: John Lord CCA2.0

Fe fydd myfyriwr Brifysgol Aberystwyth yn dechrau ymprydio heddiw i alw am ddatganoli darlledu i Gymru.

Bwriad Elfed Wyn Jones yw byw am wythnos ar ddim ond dŵr, gan gynnal ei brotest yn benna’ yn swyddfa Cymdeithas yr Iaith yn y dref.

Ddoe, fe fu’n cyfarfod â Gweinidog Darlledu Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, yn Nolgellau i drafod yr ymgyrch.

Yn ôl Elfed Wyn Jones, roedd y cyfarfod yn un “adeiladol” ac mae’n “obeithiol” y bydd rhagor o Aelodau Cynulliad yn cynnig cefnogaeth i’r ymgyrch.

“Cyfrifoldeb i weithredu”

“Rydw i’n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol yw’r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu,” meddai Elfed Wyn Jones, mab fferm 20 o Drawsfynydd sy’n astudio yn Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol y Brifysgol.

  • Roedd datganoli pwerau tros gyllido darlledu’n un o argymhellion Comisiwn Silk yn 2013.
  • Ar hyn o bryd, mae mwy na 50 o bobol yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?