Mae carchar yng Nghymru wedi cael ei ganmol am ganiatáu i garcharorion ifanc ddefnyddio ffonau symudol a Skype i gysylltu gyda theuluoedd a ffrindiau.
Yn ôl arolygwyr, roedd Uned Ieuenctid carchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd trwy gynnig “cyswllt gwerth chweil” i garcharorion.
Fe fydd yr adroddiad yn cryfhau galwadau am fwy o ddefnydd o dechnoleg newydd mewn carchardai – roedd arolwg dan adain Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddiweddar wedi galw am ddefnydd o ‘ymweliadau rhithiol’
Ffonau yn y celloedd
Mae’r bechgyn, sydd rhwng 15 a 18 oed yn gallu defnyddio ffonau symudol yn eu celloedd a threfnu i gael cyswllt siarad-a-gweld trwy Skype.
Roedd hynny’n arbennig o bwysig, meddai’r adroddiad, os oedd y carcharorion ymhell oddi wrth eu teuluoedd neu os oedd perthnasau yn wael ac, efallai, yn yr ysbyty.
“Gall ychwanegu Skype fod fel rhaff achub bywyd i rai pobl ifanc, gan ganiatáu iddyn nhw gadw cysylltiad â’u teuluoedd,” meddai Janet Wallsgrove, cyfarwyddwr y Parc ar ran G4S, y cwmni sy’n rheoli’r uned.
Gwella
Mae adroddiad yr arolygwyr hefyd yn canmol yr uned yn y Parc am welliannau mewn trefn ac am leihau trais, er fod gormod o hyd.
Mae tua 60 o fechgyn a dynion ifanc yn yr uned.