Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi croesawu adroddiad ar senarios gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y sectorau bwyd, pysgodfeydd, coedwigaeth a’r amgylchedd.

Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi gan Ford Gron yr ysgrifennydd, sef grŵp a gafodd ei sefydlu yn sgil y refferendwm yn 2016 i fod yn fforwm ymgysylltu a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’i phrif randdeiliaid – a hynny er mwyn cynllunio ar gyfer Brexit.

Mae’r adroddiad ei hun yn trafod pum senario posib ar gyfer Brexit, sy’n ymdrin â’r gwahanol gytundebau y bydd y Deyrnas Unedig yn eu cael wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith rhai o’r casgliadau ar y rheiny, fel y mae’r adroddiad yn nodi, yw:

  • Bydd prisiau bwyd yn cynyddu i raddau ymhob senario – gyda thariffau yn dylanwadu ar hynny.
  • Bydd y sector defaid yn wynebu “heriau difrifol”, gyda chyfyngiadau daearyddol a diffyg gweithlu mewn lladd-dai a ffatrïoedd yn golygu y bydd y farchnad cig oen yn ei chael “yn anodd”.
  • Y sectorau llaeth a dofednod fydd y cryfaf gan eu bod yn canolbwyntio ar farchnadoedd mewnol yr Undeb Ewropeaidd ac yn llai dibynnol ar allforio.
  • Bydd angen i fusnesau ffermio a physgota Cymru gynhyrchu mwy a bod yn fwy effeithiol, ac ystyried arallgyfeirio i gadw’n fyw.

“Ffynhonnell bwysig”

“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu llawer iawn o ansicrwydd ac mae’n cynnig heriau a chyfleoedd i bob sector gan gynnwys bwyd, pysgodfeydd, ffermio, coedwigaeth a’r amgylchedd,” meddai’r Lesley Griffiths.

“Ond wedi dweud hynny, mae hi’n aruthrol o anodd rhagweld effeithiau Brexit.

“Mae’r Grŵp felly wedi ystyried nifer o senarios i bwyso a mesur yr effeithiau uniongyrchol ar sectorau allweddol a rhwng y sectorau er mwyn inni allu ystyried hefyd yr effeithiau ehangach posib ar ein cymunedau a’n hamgylchedd.

“Er bod yr adroddiad yn ddogfen anghyfforddus i’w darllen, bydd yn ffynhonnell bwysig inni fel llywodraeth ac i’r sectorau eu hunain, i’n helpu i gyd-baratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus y tu allan i’r UE.”