Mi fydd arweinydd Cyngor Caerdydd ymhlith y rhai a fydd yn cwrdd â Phrif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, ym Mrwsel heddiw, a hynny er mwyn trafod perthynas dinasoedd y Deyrnas Unedig ag Ewrop yn dilyn Brexit.

Bydd y Cynghorydd Huw Thomas ymysg 10 arweinydd arall o ynysoedd Prydain a fydd yn cyfarfod â’r Prif Drafodwr ym Mhencadlys y Comisiwn Ewropeaidd heddiw, lle byddan nhw’n trafod materion megis budd cyffredin y dinasoedd, a sut i fodloni anghenion cymunedau a busnesau lleol yn sgil Brexit.

Mae’r 10 arweinydd o Ddinasoedd Craidd y Deyrnas Unedig, sef 10 dinas allweddol y tu allan i Lundain, ac sy’n gartref i 20 miliwn o ddinasyddion ac yn gyfrifol am 25% o economi’r Deyrnas Unedig.

Mae’r cyfarfod heddiw yn cael ei gynnal gan lywydd y rhwydwaith dinasoedd Ewropeaidd, EUROCITIES, sy’n cynrychioli tua 200 o ddinasoedd ledled Ewrop.

Brexit am “niweidio’r” brifddinas

Yn ôl y Cynghorydd Huw Thomas, does dim amheuaeth ganddo y bydd Brexit yn “niweidio’r” brifddinas.

Ymhlith ei bryderon mae’r ffaith bod Caerdydd ymhlith y pum dinas yn y Deyrnas Unedig sy’n fwyaf ddibynnol ar farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd, a’r ffaith bod y sectorau iechyd yn dibynnu ar weithwyr tramor ac yn denu 3,000 o fyfyrwyr o’r cyfandir.

Mae hefyd yn dweud bod y cyllid mae Caerdydd yn ei dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd werth £1.2 biliwn, yn “chwe gwaith” gymaint dros gyfnod o 20 mlynedd â bargen ddinesig o law Llywodraeth Prydain.

“Mae’n hanfodol bod Caerdydd yn parhau’n agored ac eangfrydig. Rydyn ni eisiau parhau i gynyddu nifer y busnesau a swyddi dros y blynyddoedd i ddod.

“I wneud hynny, mae’n hanfodol fod perthnasau cadarnhaol â dinasoedd, sefydliadau, partneriaid a rhwydweithiau Ewropeaidd yn goroesi i’r dyfodol er budd Caerdydd a’n Dinasoedd Craidd partner, ynghyd â dinasoedd ledled yr UE.”