Fe fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn dweud bod gan y diwydiant olew “gefnogaeth lawn” Llywodraeth Prydain, a hynny yn ystod ymweliad â Sir Benfro ddydd Llun (Ionawr 19).

Fe fydd Alun Cairns yn ymweld â phurfa olew Valero yn ne Sir Benfro, lle bydd is-lywydd a rheolwr y cwmni, Edward Tomp, yn ei ddiweddaru ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar y safle.

Fe fydd wedyn yn mynd ar daith o gwmpas y burfa sy’n cynhyrchu tua 220,000 casgen o olew’r dydd, ac sy’n un o’r purfeydd olew mwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae’r burfa yn cyflogi mwy na 500 o weithwyr ac mae cannoedd yn rhagor yn cael eu cyflogi fel contractwyr.

Cefnogi’r diwydiant olew

“Dw i am wneud yn glir bod gan y diwydiant hwn gefnogaeth lawn Llywodraeth Prydain,” meddai Alun Cairns.

“Fel un o’r sectorau diwydiannol mwyaf yng Nghymru sydd â’r gweithlu mwyaf medrus yn y byd, ry’n ni’n awyddus i barhau i gydweithio er mwyn sicrhau llwyddiant hirdymor y diwydiant.

“Fe fyddwn ni’n parhau i wneud yn siŵr bod gennym ni’r polisïau cywir mewn lle er mwyn sicrhau buddsoddiad i’r diwydiant ynni, gan sicrhau hefyd fod buddsoddwyr pwysig fel Valero yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn parhau’n gystadleuol.”