Mae golwg360 wedi cael gwybod fod Ifor Glyn “yn gyfforddus” yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl dychwelyd o Bangkok.

Daeth y newyddion ddoe ei fod e ar ei ffordd dod adre’, ddyddiau ar ôl i gwmni yswiriant wrthod talu iddo gael ei gludo o’r wlad lle cafodd ei daro’n wael â niwmonia.

Cafodd ymgyrch codi arian ei sefydlu ar wefan Go Fund Me, ond mae’r gronfa wedi’i chau bellach, a’r bwriad yw dychwelyd yr holl arian.

Diweddariad

Mewn diweddariad ar y wefan heddiw, dywedodd Gwil Roberts fod gobaith y bydd Ifor Glyn yn gwella’n llwyr o’i salwch.

“Erbyn hyn dwi’n siwr eich bod chi i gyd wedi clywed y newyddion fod Ifor a’i deulu wedi dychwelyd yn ôl i Gymru yn hwyr neithiwr, ac ei fod o bellach mewn cyflwr cyfforddus yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

“Ein gobaith rwan yw y bydd Ifor maes o law yn gwella’n llwyr o’r cyfnod yma o salwch ac y bydd Glen, Karen a Chum (teulu Ifor) yn dod dros y profiad hunllefus maent wedi bod drwyddo dros yr wythnosau diwethaf.

“Dwi wedi siarad efo Glen a Chum bore ma ac yn ei barn nhw oni bai am yr apêl yma a sylw y wasg i’r ymgyrch i ddod ag Ifor adra, byddent dal yn Bangkok!”

Ychwanegodd y gallai’r cwmni yswyriant fod “wedi gwneud yr hyn naethon nhw ddoe o leiaf tair wythnos i fis yn ôl ond yn hytrach wnathon nhw ddim er gwaethaf ymdrechion y teulu a Dewi Jones, (cyfaill i Ifor sydd yn byw yng Ngwlad Thai) i gael Ifor adra a talu’r ysbyty lle’r oedd o yn derbyn triniaeth.

“Dim ond pan ddaru y gronfa yma gael ei sefydlu a sylw yn troi arnyn nhw a’u methiant i helpu Ifor a’i deulu ddaru pethau newid yn sydyn iawn.”

Diolch

Wrth ddiolch i bawb am eu cefnogaeth, ychwanegodd: “Fedr y teulu ddim diolch digon i chi gyd am eich cefnogaeth a’ch caredigrwydd. Mae nhw wedi gwario oddeutu £5,000 mewn costau hedfan, teithio a gwestai yn ystod y cyfnod hunllefus yma o 5 -6 wythnos er mwyn bod gyda Ifor.

“Serch hynny ei dymuniad hwy gan mai prif amcan y gronfa yma oedd codi arian i dalu am Ambiwlans Awyr i ddod a Ifor adra ydi ad-dalu eich cyfraniadau i gyd yn ôl i chi.”

Ychwanegodd y byddai pawb yn derbyn eu harian yn ôl o fewn “5-10 diwrnod” yn unol â pholisi’r wefan, ond fod modd “rhoi cyfraniad i’r teulu yn uniongyrchol tuag at y costau maent wedi eu gwynebu… drwy gysylltu â brawd Ifor, Chum Jones ar Facebook.”

“I gloi, carwn i ddiolch o galon i chi am eich caredigrwydd tuag at Ifor a’i deulu. Dwi yn adnabod y teulu ers dros 40 mlynedd ac dwi’n falch ein bod ni i gyd wedi gallu eu helpu i ddod a’r hunllef o’r wythnosau diwethaf i ben.

“Fe ddaethom ni a Ifor (a nhw) adra ac dwi’n siwr rwan ein bod ni i gyd yn dymuno gwellhad llawn a buan iddo dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf – brysia i wella Ifor x.”