Mae Cymro Cymraeg o Aberystwyth wedi dweud wrth golwg360 fod awyrgylch “dirdynol ac ansicr” yn Ninas Mecsico yn dilyn y daeargryn ddiwedd yr wythnos hon.

Mae Talog Morris-Dafydd, 26, yn dysgu Saesneg yn y ddinas, ac yn byw ym Mecsico ers tair blynedd.

Roedd y daeargryn ddydd Gwener 24.6km o dan y ddaear, ac fe fu’n rhaid i filoedd o bobol ffoi ar ôl i nifer o adeiladau eu difrodi.

Cafodd 14 o bobol eu lladd ar ôl i hofrennydd oedd yn cynnal arolwg o safle’r daeargryn blymio i’r ddaear.

Dyma’r trydydd ddaeargryn yn y wlad mewn ychydig fisoedd. Cafodd cannoedd o bobol eu lladd yn dilyn dau ddaeargryn fis Medi y llynedd.

Yn ôl Talog Morris-Dafydd, mae’r wlad yn dal i deimlo effeithiau’r digwyddiadau hynny.

“Mae llawer o bobol yn teimlo’n nerfus iawn gan fod sawl daeargryn wedi digwydd yn ddiweddar.

“Ar ôl daeargryn mis Medi, mae gan nifer ryw fath o PTSD. Roedd sawl person o’r adeilad lle dw i’n byw yn crio yn y stryd am sbel ar ôl i’r daeargryn stopio.

“Roedd y daeargryn echdoe yn bell iawn o Ddinas Mecsico ond roeddwn i wedi teimlo llawer o symudiadau. Roedd y goleuadau stryd yn siglo lot, a gyda’r larymau yn y stryd yn rhybuddio am y daeargryn, roedd yr awyrgylch yn ddirdynedig ac yn ansicr iawn.

“Mae ymdeimlad gweddol ansicr yn Ninas Mecsico ar y foment, ond mae Mecsicanwyr yn resilient iawn ac maen nhw wedi dychwelyd i’w bywydau arferol erbyn hyn.

“Ond bob tro mae yna ddaeargryn sy’n cael ei deimlo yn y ddinas, mae’n amlwg iawn bod effaith tymor hir ar bawb oedd wedi goroesi daeargryn mis Medi, a hyd yn oed yr un mawr yn 1985 oedd wedi lladd miloedd.”

Daeargryn mis Medi

Ar ôl y daeargryn yn Puebla fis Medi, cafodd nifer o adeiladau trefedigaethol eu difrodi, meddai, a nifer o bobol wedi marw ynddyn nhw.

“Roeddwn i hefyd yn agos iawn at gael fy mrifo gan fod balconi enfawr gwesty wedi cwympo lle’r oeddwn i’n sefyll eiliadau’n unig cyn y daeargryn.

“Roeddwn i’n teimlo’n ffodus iawn fy mod i’n gallu symud o’r ffordd ond hefyd, dw i’n dal i deimlo’n weddol nerfus os ydw i’n teimlo daeargryn bach neu’n clywed larwm daeargryn yn y stryd.

“Ar y pryd, ro’n i’n astudio actio mewn ysgol o’r enw Institudo de Teatro de Puebla, a chafodd adeilad yr ysgol ei adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly roedd rhaid trwsio sawl rhan ohono cyn gallu agor ei ddrysau eto.

“Yn gyffredinol, mae Puebla wedi delio â’r sefyllfa’n dda iawn. Mae canol y ddinas yn ardal UNESCO felly mae’r llywodraeth wedi trwsio rhan fwya’r adeiladau. Mae cwpwl o adeiladau’n dal i gael eu dal i fyny gyda phren neu fetel gan fod y difrod mor wael.”

Ymateb “anhygoel” i ddaeargrynfeydd

Yn ôl Talog Morris-Dafydd, mae ymateb pobol ym Mecsico i ddaeargrynfeydd yn “anhygoel”.

“Roedd gan y Groes Goch gymaint o wirfoddolwyr fel bod rhaid iddyn nhw ddechrau troi pobol i ffwrdd. Roedd dwsinau o adeiladau wedi cael eu troi’n ganolfannau ymgasglu, ac roedd bron bob myfyriwr meddygol o’r prifysgolion wedi trefnu brigadau i roi sylw i bobol mewn pentrefi sy’n bell o’r ddinas.

“Roedd llawer o bentrefi wedi cael eu dinistrio bron yn gyfangwbl, ond mae gan Fecsico ffordd unigryw iawn o ddod at ei gilydd yn y fath sefyllfa. Mae’n dangos pa mor garedig ac anhunanol yw’r diwylliant fan hyn weithiau.” 

Ap yn rhybuddio am ddaeargrynfeydd

Cafodd Talog Morris-Dafydd rybudd drwy ap o’r enw SkyAlert fod daeargryn ar fin taro’r ddinas, ac mae’n dweud iddo gael “tua munud o rybudd” ddydd Gwener.

“Roedd yn ddigon o amser i adael yr adeilad. Mae’r ap yn ddefnyddiol iawn ac wedi achub sawl bywyd, dw i’n siŵr.”

Fe fydd Mecsicanwyr yn cyfri’r gost yn y cyfnod ar ôl y daeargryn, sydd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y wlad sy’n dal i geisio codi ei hun unwaith eto ers y daeargryn ym mis Medi.

Ychwanegodd Talog Morris-Dafydd: “Dim ond cwpwl o adeiladau oedd wedi cael eu heffeithio gan y daeargryn, ond mae llawer o adeiladau sydd wedi cael eu gwagio gan eu bod nhw wedi cael eu difrodi gan ddaeargryn mis Medi.

“Roedd y rhan fwyaf o’r adeiladau oedd wedi cwympo yn gyfangwbl yn Ninas Mecsico yn adaeiladau chwe llawer neu fwy.

“Y ddwy ardal sydd wasta yn cael eu heffeithio fwyaf yw Roma a Condesa, dwy ardal gyfoethog iawn ond mae’r pridd o dan yr ardaloedd hyn yn feddal iawn.

“Roedd y rhan fwyaf o Ddinas Mecsico yn arfer bod yn llyn enfawr, felly mae’r tir yn feddal iawn ac yn gwneud i unrhyw ddaeargryn bara rai munudau.”