Yws Gwynedd a’i fand gipiodd brif wobr Y Selar yn ystod noson fawreddog yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth neithiwr.

Yn ogystal â chael eu henwi’n Fand Gorau, fe enillodd y canwr o Flaenau Ffestiniog a’i fand wobrau’r Record Hir Orau am yr albwm Anrheoli, y Fideo Gorau (Drwy Dy Lygid Di), y Gân Orau (Drwy Dy Lygid Di).

Er ei fod yn cael ei gydnabod yn ganwr unigol, mae Yws Gwynedd yn pwysleisio o hyd mai gwaith y band i gyd yw’r albwm diweddaraf. Ac fe ddaeth â llwyddiant iddo unwaith eto ac yntau wedi ennill yr Artist Unigol Gorau deirgwaith yn y gorffennol, ynghyd â sawl gwobr arall dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe fu’r flwyddyn ddiwethaf yn un dda iddo, ac yntau wedi bod yn brif artist Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn, ac wedi denu’r dorf fwyaf erioed i Maes B ar nos Sadwrn ola’r Eisteddfod.

Mae’n cael seibiant ar hyn o bryd er mwyn canolbwyntio ar ei label, Recordiau Côsh.

Gwobrau eraill

Maes B enillodd deitl y Digwyddiad Byw Gorau unwaith eto eleni, gyda Clwb Ifor Bach yn derbyn gwobr Hyrwyddwr Annibynnol Gorau mewn blwyddyn a welodd fygythiad i ddyfodol y lleoliad eiconig.

Roedd yn noson dda i artistiaid newydd ac addawol y sin hefyd – y grŵp o Fôn a Gwynedd, Gwilym, gipiodd y teitl am y Band neu Artist Newydd Gorau, gydag un arall o’r grwpiau oedd ar restr fer y categori hwnnw, Pasta Hull yn ennill y wobr am y Gwaith Celf Gorau am glawr eu halbwm cyntaf, Achw Met.

Grŵp ifanc a chyffrous arall aeth a’r wobr am y Record Fer Orau, sef Cadno, am eu EP cyntaf sy’n rhannu enw’r grŵp.

Yn y categorïau eraill ar y noson, cipiodd Osian Williams o Candelas a Siddi y wobr am yr Offerynnwr Gorau am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae Osian hefyd yn chwarae ym mand Alys Williams, a hi gipiodd deitl yr Artist Unigol Gorau. Y comedïwr, a chyflwynydd Radio Cymru, Tudur Owen ddaeth i’r brig ym mhleidlais y Cyflwynydd Gorau eleni.

‘Noson ardderchog’

Dywedodd trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone ei bod hi “wedi bod yn noson ardderchog eto eleni”, gyda mwy na 1,000 o bobol yn y seremoni.

“Pleidlais boblogaidd ydy Gwobrau’r Selar, a does dim amheuaeth mai Yws Gwynedd oedd artist cerddorol mwyaf poblogaidd 2017.

“Mae brwdfrydedd a gwaith caled Yws yn esiampl i unrhyw gerddor ifanc, ac mae’n llawn haeddu ei lwyddiant.

“Mae’n braf hefyd gweld nifer o fandiau ifanc yn cael eu gwobrwyo eleni – gobeithio bydd hyn yn rhoi hwb i Gwilym, Cadno a Pasta Hull, ynghyd â’r artistiaid ifanc eraill oedd ar y rhestrau byr, ac y byddwn ni’n gweld llawer mwy ganddyn nhw.”

Enillwyr llawn Gwobrau’r Selar 2017:

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Drwy Dy Lygid Di – Yws Gwynedd

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Gig Fawr): Maes B

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Achw Met – Pasta Hull

Band Neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Gwilym

Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Clwb Ifor Bach

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Cadno – Cadno

Offerynnwr Gorau (Noddir gan PRS for Music): Osian Williams

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Anrheoli – Yws Gwynedd

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Tudur Owen

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Drwy Dy Lygaid Di – Yws Gwynedd

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Alys Williams

Band Gorau (Noddir gan Gorwelion): Yws Gwynedd

Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Sain): Heather Jones