Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A48 yng Nghas-gwent yn oriau man y bore yma.
Cafodd dyn 32 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn cyflwr difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng cerbyd a cherddwr ym Mhwllmeurig am 1.55am.
Doedd y cerbyd ddim wedi stopio yn dilyn y digwyddiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.