Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn yr hyn y mae Heddlu’r Gogledd yn ei alw’n “ddigwyddiad cas” yn Rhuthun.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Clwyd am oddeutu 1.45 fore Sadwrn, ac maen nhw’n dal yno.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth, ac maen nhw’n cynnig cymorth i deulu’r dyn.