Mae rali yn cael ei chynnal yn Abertawe heddiw yn erbyn polisi llymder Llywodraeth Prydain.
Ar dudalen Facebook y digwyddiad, mae’r trefnwyr yn dweud bod gwledydd Prydain yn dal i ddioddef yn sgil polisi a gafodd ei gyflwyno dros ddegawd yn ôl.
“Er bod disgwyl i’r rhaglen ddod i ben yn 2016, rydym yn dal i fyw yn oes toriadau cynyddol i lywodraeth leol. Mae’r toriadau hyn yn andwyol i bobol Bae Abertawe ac yn syml, rydym wedi cael llond bol.
“Mae llymder yn gelwydd, ac mae angen dwyn celwydd-gŵn i gyfrif.”
Rhoddodd y trefnwyr siars i bobol Abertawe “roi gwybod i [San Steffan] nad ydyn ni’n derbyn bod llymder yn bodoli er ein lles ni.
Ymhlith y siaradwyr yn Sgwâr y Castell mae:
- Geraint Davies (Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe)
- Rob Stewart (Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe)
- Julie Morgan (Aelod Seneddol Llafur dros Ogledd Caerdydd)
- Mike Hedges (Aelod Cynulliad Llafur dros Ddwyrain Abertawe)
- Carolyn Harris (Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Abertawe)
- Tonia Antoniazzi (Aelod Seneddol Llafur dros Gŵyr);
- a chynrychiolwyr o undebau llafur, grwpiau gwrth-hiliaeth a mudiadau dyngarol.