Clwb Pêl-droed Abertawe sy’n rheoli Stadiwm Liberty bellach, yn dilyn cytundeb newydd gyda Chyngor y Ddinas a rhanbarth rygbi’r Gweilch, fydd yn parhau i chwarae yno.

Mae’r cytundeb yn golygu mwy o sefydlogrwydd ariannol i’r Elyrch, sy’n brwydro i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd.

Dywedodd un o ddau berchennog Americanaidd y clwb, Steve Kaplan fod y cytundeb yn “gam eithriadol o bwysig ymlaen” ar gyfer dyfodol y clwb, a bod ymestyn y stadiwm yn bosibilrwydd erbyn hyn.

Ychwanegodd ei gyd-berchennog Jason Levien fod y Prif Swyddog Gweithredol, Chris Pearlman a’i dîm “wedi gweithio’n ddiflino” i sicrhau’r cytundeb, a’i fod yn “benllanw misoedd o gynllunio a gwaith sy’n galluogi’r clwb pêl-droed i reoli ei dynged ei hun”.

Fe fydd y cytundeb newydd, yn ogystal â galluogi y clwb i ymestyn y stadiwm, hefyd yn arwain at hawliau enwi’r stadiwm, posibiliadau nawdd newydd, ymestyn cyfleusterau arlwyo a gwella ar brofiadau ymwelwyr ar ddiwrnodau’r gemau.

Caeau cymunedol

Ond yn fwy na hynny, fe fydd yn galluogi’r gymuned leol i fanteisio ar gyfleusterau newydd, gan gynnwys dau gae 3G bob pum mlynedd at ddefnydd y gymuned.

Dywedodd arweinydd y Cyngor Sir, Rob Stewart fod y cytundeb yn “newyddion da i bawb”.

“Dyma gytundeb sydd o fudd i’r Elyrch, y Gweilch a’r Cyngor. Mae’n rhoi’r rhyddid i’r Elyrch fasnacheiddio’r stadiwm, tra bydd trethdalwyr nid yn unig yn derbyn incwm ond hefyd arian ychwanegol o unrhyw hawliau i enwi’r stadiwm, a chaeau 3G newydd ar draws yr awdurdod.”