Mae pobol sy’n bwriadu teithio ar y ffyrdd neu’r rheilffyrdd i Gaerdydd wedi cael rhybudd fod disgwyl cryn oedi dros y penwythnos yn sgil gwaith atgyweirio.

Mae’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd) ynghau rhwng Brynmawr, Blaenau Gwent a Gilwern rhwng 6 o’r gloch y bore ma a 6 o’r gloch fore Llun.

Rheilffyrdd

Bydd y rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd ynghau ddydd Sadwrn a dydd Sul, a bws yn cael ei gynnig yn lle’r trên.

Bydd yr M4 ynghau i gyfeiriad y gorllewin yng Nghasnewydd ynghau o 7 o’r gloch nos Sadwrn.

Mae disgwyl i’r oedi ar y rheilffordd ar draws y de gael effaith ar deithiau i Abertawe, y gorllewin, Cheltenham, Llundain, Manceinion, Nottingham a de Lloegr. Bydd yn effeithio ar drenau rhwng Caerdydd a Cheltenham yr wythnos nesaf, gyda theithiau’n dod i ben yng Nghasnewydd.

Mae’r gwaith atgyweirio’n rhan o brosiect gwerth £800 miliwn fydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.