Mae pryderon wedi’u codi am ymrwymiad hir dymor Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau ynni cymunedol Cymru yn ariannol.

Mae Robert Procter, yn cynrychioli Ynni Cymunedol Cymru – corff sydd yn cefnogi cynlluniau ynni cymunedol – ac wedi croesawu cynllun grant newydd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (Chwefror 16).

Dan  y cynllun, gan Lywodraeth Cymru, bydd prosiectau ynni dŵr sydd â gwerth trethiannol hyd at £50,000 yn medru ceisio am grant fydd yn eu hesgeuluso o drethi  busnes y flwyddyn nesa’.

Ond, er ei gefnogaeth at y cam, mae’r Robert Procter  – Rheolwr Datblygu Busnes ei gorff – yn nodi fod “sawl problem” ac yn cwestiynu os fydd y cynllun yn para dros flwyddyn.

“Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu ond ateb dros dro yw hyn,” meddai wrth golwg360.

“Tybed bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud hyn o flwyddyn i flwyddyn? Mae llawer o’r prosiectau yma yn cael eu hariannu dros gyfnod o ugain mlynedd.

“Felly mae’n bendant yn rhywbeth i’w groesawu ac yn dangos cefnogaeth dda gan Lywodraeth Cymru. Ond, mae yna gwestiwn sef,  a ydi’r gefnogaeth yna’n mynd i barhau trwy gydol oes prosiectau?’”

Y Swyddfa Brisio

Mae Robert Procter yn esbonio bod llawer o brosiectau ynni cymunedol yn wynebu “problemau eitha’ sylweddol” yn sgil penderfyniad y Swyddfa Brisio i’w prisio’n uwch.

Mae hyn wedi golygu bod y prosiectau yma â gwerth uwch ac felly ddim yn gymwys am Ryddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Bach (Small Business Rates Relief), felly’n wynebu dyfodol llai sicr.

Un o amcanion Ynni Cymunedol Cymru bellach, yw herio’r newidiadau cafodd eu cyflwyno gan y Swyddfa Brisio – un o gyrff Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Dyna’r prif drywydd ymlaen. A dw i’n credu bod Llywodraeth Cymru’n gefnogol yn y trafodaethau yna gyda’r Swyddfa Brisio. Byddai hynny’n datrys y broblem.”

“Angen model busnes tymor hir”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy gydnabod bod “angen model busnes hirdymor ar y sector pŵer dŵr.”

Er hynny mae’r llefarydd yn mynnu bod “ein cynllun grant newydd yn mynd i’r afael â’r effeithiau y mae prosiectau’n eu profi nawr.”

Mae’r Llywodraeth hefyd yn nodi eu bod ynghlwm ag ymrwymiad hir dymor, y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – deddf sydd yn gorfodi cyrff cyhoeddus i ymddwyn mewn modd cynaliadwy.

“Rydym eisoes yn gweithio gyda Chymdeithas Pŵer Dŵr Prydain i weld beth sydd angen ei newid i sicrhau y gall y sector ffynnu mewn dyfodol heb gymhorthdal a pharhau i gynnig y buddiannau tymor hir y mae’r prosiectau hyn yn eu darparu,” meddai’r llefarydd wedyn.