Mae’r Bathdy Brenhinol wedi penodi dynes fel ei brif weithredwr, a hynny am  y tro cyntaf ers ei sefydlu dros fil o flynyddoedd yn ôl.

Fe ddaeth cadarnhad heddiw mai Anne Jessopp yw bos newydd y sefydliad a gafodd ei greu yn y flwyddyn 886OC.

Mae hynny’n golygu mai hi hefyd yw Dirprwy Feistr y Bathdy, ac fe fydd hi’n gyfrifol am redeg y sefydliad sy’n cynhyrchu gwerth tua £90m o ddarnau arian bob wythnos.

Sefydliad sy’n “addasu” i’r amseroedd

“Dw i’n hynod falch o gael fy mhenodi i arwain y sefydliad Prydeinig unigryw a phwysig hwn,” meddai Anne Jessopp, sydd wedi bod yn gweithio yn y Bathdy Brenhinol ers deng mlynedd.

“Mae gan y Bathdy Brenhinol hanes anhygoel sy’n ymestyn dros 1,100 o flynyddoedd, ac mae wedi goroesi oherwydd ei allu i addasu i newidiadau cymdeithasol.

“Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir heddiw, wrth inni ei ailystyried ar gyfer yr 21ain ganrif, gan adeiladu ar yr egwyddorion sydd wedi bod wrth galon y sefydliad ar draws hanes – sef dilysrwydd, diogelwch, metalau gwerthfawr, crefft a dyluniad.”

Mae pencadlys y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.