Fydd prosiectau ynni dŵr cymunedol yng Nghymru ddim yn gorfod talu trethi eiddo busnes y flwyddyn nesa’ o dan gynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Ysgrifennydd Ynni Cymru, Lesley Griffiths, wedi dweud y bydd cwmnïau sydd â gwerth trethiannol o hyd at £50,000 yn gallu gwneud cais am grant i dalu 100% o’u hardreth fusnes y flwyddyn ariannol nesa’ a chael ad-daliad eleni.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o gytundeb Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru ar y Gyllideb yn 2018/19 – mae wedi cael croeso cyffredinol ond fod rhai o’r cynlluniau’n galw am fwy o sicrwydd yn y tymor hir.

Mae’r Llywodraeth yn dweud y byddan nhw hefyd yn rhoi cymorth i sicrhau nad yw busnesau bychain eraill yn talu mwy na 10% o dreth.

Cwyno am drethi ‘uchel’

Mae tua 47 o brosiectau dŵr cymunedol yng Nghymru a sawl cwmni wedi cwyno am orfod talu ardrethi “uchel” yn enwedig wedi i ailasesiad arwain at godiadau anferth i rai o’r cynlluniau.

Nôl ym mis Awst, fe wnaeth Keith Jones, cyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru a phrosiectau cymunedol Ynni Ogwen, Cyd-Ynni Ogwen, Ynni Padarn Peris ac Ynni Anafon, ddweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod yn poeni am ddyfodol y prosiectau o achos y trethi.

“Mae’r codiadau wedi bod yn anferthol, yn enwedig i’r byd hydro – mae Bethesda [Ynni Ogwen] wedi cael codiad o oddeutu £3,500 y flwyddyn mewn ardrethi busnes, ond mae o gwmpas £11,000 rŵan,” meddai ar y pryd.

Mae rheolwyr cynllun ynni hydro diweddara’ Cymru hefyd wedi croesawu’r newyddion – fe aeth Ysgrifennydd y Cabinet, Hannah Blythyn, i Dreherbert yn y Rhondda ddoe i agor cynllun Croeso i’n Coedwig, a fydd yn elwa o’r grant newydd.

“R’yn ni’n croesawu’r cymorth ychwanegol – fe fydd yn ein helpu ni i barhau i gyflawni ein prosiect ynni glân,” meddai Cyfarwyddwr y cwmni, Ian Thomas.

Cefnogaeth

“Bydd ein cynllun newydd yn darparu rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer cynlluniau cymunedol ac yn rhoi cymorth tuag at eu hardrethi annomestig i brosiectau bychain eraill,” meddai Lesley Griffiths.

“Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd yn rhoi mwy o gefnogaeth i ddatblygwyr pŵer dŵr yng Nghymru nag yn unrhyw le arall ym Mhrydain.

 

“Mae cynhyrchu trydan o ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi treblu ers 2010 ac mae datblygwyr cymunedol wedi chwarae rhan bwysig yn y llwyddiant hwn.”