Mae menter iaith yn Sir Gaerfyrddin wedi cael grant o £1.1 miliwn gan Gronfa’r Loteri Fawr i ddatblygu Neuadd Sirol Llandeilo a’i throi’n ganolfan gymunedol newydd.

Bydd Menter Bro Dinefwr yn defnyddio’r arian i drawsnewid un o adeiladau hynaf y dref yn ganolfan dreftadaeth a chroeso, gydag ystafelloedd cyfarfod i’w llogi.

Bydd cynnig i fusnesau lleol sefydlu ei hunain yn y ganolfan newydd hefyd, gydag adnoddau Cymraeg yn cael eu darparu.

‘Un o’r buddsoddiadau mwya’

Yn ôl Prif Weithredwr y Fenter, dyma un o’r buddsoddiadau cymunedol mwyaf erioed i’r ardal a fydd yn cael effaith economaidd, cymunedol ac ieithyddol arni.

“Mae hwn yn newyddion arbennig, nid yn unig i Fenter Bro Dinefwr ond hefyd i dref Llandeilo a’r ardal ehangach,” meddai Owain Gruffydd.

“… Mae ein diolch yn fawr i nifer o bartneriaid, yn enwedig i Gyngor Tref Llandeilo a Chronfa’r Loteri Fawr, am wneud y cyfan yn bosib.”

 

Prosiectau eraill

Roedd y cyhoeddiad am Landeilo’n un o gyfres o grantiau mawr i brosiectau cymunedol ledled Cymru – gwerth £5.4 miliwn i gyd.

Dyma’r pedwar cynllun arall:

  • Grant o £1,072,692 i adnewyddu Pafiliwn Grange, adeilad segur yn Grangetown, Caerdydd a chreu caffi, swyddfa a lle cyfarfod. “Nod y prosiect yw datblygu cyfleoedd ymchwil, dysgu a gwirfoddoli o safon fyd-eang,” meddai Lynne Thomas, rheolwr y prosiect o Brifysgol Caerdydd.
  • Mae Age Concern yn Rhondda Cynon Taf wedi cael £1.1 miliwn hefyd i newid Canolfan Gymunedol y Santes Fair yn ganolfan gyda swyddfeydd, neuadd i gynnal digwyddiadau cymunedol, meithrinfa, ystafelloedd therapi a chaffi cymdeithasol.
  • Fe fydd £1,095,915 yn mynd at ailddatblygu hen siop beiriannau o’r 1920au ar safle Gwaith Dur Brymbo ger Wrecsam a’i throi’n ganolfan addysgu gymunedol.
  • Yn y Drenewydd, mae grant o £1,098,819 yn mynd at newid 130 erw o dir i greu safle amlbwrpas gyda’r nod o sefydlu’r dref yn gyrchfan ymwelwyr.