Jack Sargeant yw’r Aelod Cynulliad diweddaraf i gefnogi ymgyrch Julie Morgan AC i fod yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru.

Ac mae hithau wedi dweud ei bod yn cefnogi ei fwriad i sichrau “glweidyddiaeth fwy cyfeillgar” yn sgil hunanladdiad ei dad a’i ragflaenydd, Carl Sargeant, ynghanol honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Yn ei dro, mae AC Alyn a Glannau Dyfrdwy’n dweud mai Julie Morgan yw’r ymgeisydd gorau ar gyfer sicrhau gwleidyddiaeth fwy caredig o fewn y Blaid Lafur.

Neges gyson

Mae’n neges y mae Jack Sargeant wedi’i phwysleisio sawl tro ers i’w dad farw ym mis Tachwedd, tridiau ar ôl cael y sac o Gabinet Carwyn Jones – mai “gwir werthoedd Llafur” yw gofalu am bobl eraill a pheidio â brifo neb.

Ac mae Julie Morgan yn dweud bod ei neges yn “cydgordio yn union” gyda’r hyn y mae hi am wneud yn y rôl fel dirprwy arweinydd.

Mae Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd a gweddw’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, am “ddod â phobol at ei gilydd a gweithio gydag aelodau,” meddai, “i ganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a pha fath o wleidyddiaeth maen nhw eisiau ar gyfer dyfodol ein plaid.”

Yn ôl Jack Sargeant, er mwyn sicrhau “gwaddol parhaol” i’w dad, “dylen ni I gyd ddangos ychydig mwy o gariad a gofal tuag at ein gilydd.

Dwy yn y ras

Dwy sydd yn y ras i fod yn ddirprwy arweinydd i arweinydd y blaid, Carwyn Jones – Julie Morgan a Carolyn Harris, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe.

Mae’n swydd newydd sbon a dim ond menyw sy’n gallu mynd amdani am fod rheolau’r blaid yn nodi bod yn rhaid i fenyw ddal o leia’ un o’r ddwy swydd ucha’ … a Carwyn Jones yw’r arweinydd ar hyn o bryd.

Bydd y cyfnod pleidleisio yn dechrau ar Fawrth 18 ac enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd y blaid ym mis Ebrill.